MônFM – rwan ar 96.8 FM!

Mae MonFM yn darlledu ar draws Ynys Môn a Gwynedd ar 96.8 FM.

Croeso cynnes i wrandawyr newydd yn Nwyrain Ynys Môn, Gwynedd a rhannau eraill o Ogledd Orllewin Cymru – mae modd tiwnio i mewn rwan trwy ein ail donfedd FM a ddaeth ar yr awyr yn ddiweddar o’n trosglwyddydd newydd ym Mhenmynydd i ehangu ein hardal darlledu.

Rydym yn parhau i ddarlledu ar 102.5 FM ar gyfer rhannau gorllewinol a chanolog Ynys Môn, o’n trosglwyddydd yn Gwalchmai, a chyn bo hir byddwn yn gosod trydydd trosglwyddydd o Nebo, ger Amlwch, i wella derbyniad yng Ngogledd Ynys Môn.

Mae MonFM hefyd ar gael ar ein gwefan ni, trwy ein Ap symudol ar gyfer iOS ac Android (yn rhad ac am ddim) ac ar eich ddyfais clyfar trwy ofyn ”Play MonFM”.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice