Marwolaeth yn Fairbourne: arestio dyn 75 oed

Mae dyn 75 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dynes yn Fairbourne ddydd Nadolig.

Cafodd y ddynes 74 oed ei darganfod gydag anafiadau difrifol mewn cyfeiriad yn Rhodfa Francis toc wedi 8yh ar nos Fercher (25 Rhagfyr).

Yn ôl yr heddlu, bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle, er gwaethaf ymdrechion i’w hadfwyio.

Mae’r dyn yn parhau i fod yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu leol ac mae swyddogion arbenigol yn rhoi cefnogaeth i deulu’r ddynes.

Mae ystafell digwyddiad difrifol wedi ei sefydlu yng ngorsaf heddlu Caernarfon ac mae crwner Gogledd Orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones, wedi cael gwybod am y farwolaeth.

Dywedodd y Ditectif Prifarolygydd Brian Kearney: ”Yn dilyn presenoldeb yr heddlu mewn cyfeiriad yn Rhodfa Francis, mae dyn 75 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.”

”Fe allai sicrhau’r cyhoedd nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.”

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice