Llosgi fan yn fwriadol yng Nghwm-y-glo

Mae’r heddlu yng Nghaernarfon yn apelio am dystion ar ôl i fan gael ei llosgi’n fwriadol yng Nghwm-y-glo.

Cafodd yr heddlu wybod fod y fan Ford Transit ar dân tua 7.10 nos Sul (2 Rhagfyr)

Dywedodd PC Jamie Atkinson: ”Cafodd person ei weld yn rhoi’r cerbyd ar dân cyn ffoi ar droed o’r lle. Mae’n bosibl fod y person hwn wedi ei anafu ei hun yn ystod y digwyddiad gan ein bod yn credu fod ei ddillad wedi mynd ar dân yn ystod y digwyddiad.”

”Rydym yn apelio am dystion; yn enwedig cwpl a welwyd yn mynd a’u ci am dro ar y pryd ac sydd wedi gweld y digwyddiad mae’n debyg.”

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr ymosodiad bwriadol, cysylltwch â PC Atkinson yng ngorsaf heddlu Caernarfon ar 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 18400053608, neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice