Dyn wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth ym Mangor

Llun teulu (Heddlu Gogledd Cymru)

Mae dyn 24 oed wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn aflonyddwch ym Mangor.

Bu farw Dean Skillin yn yr ysbyty yn dilyn digwyddiad ger Gwesty Waverley yn y ddinas nos Sadwrn diwethaf (19 Medi). Roedd yn 20 oed ac o ardal Caernarfon.

Fe fydd Brandon Luke Sillence, o Fangor, yn ymddangos gerbron ynadon yn Llandudno ddydd Mercher. Mae hefyd wedi’i gyhuddo o ymosod ar ddyn arall.

Mewn datganiad drwy’r heddlu, mae teulu Mr Skillin wedi rhoi teyrnged i ”fab a brawd oedd yn byw bywyd i’r eithaf”.

”Roedd Dean yn berson hapus a braf, yn ofalgar a oedd yn fab a brawd annwyl iawn…roedd yn caru ei deulu cyfan ac roeddem i gyd yn falch iawn ohono.”

”Byddwn yn ei golli’n ofnadwy ond bydd Dean bob amser yn ein calonnau ac rydym yn gweddïo na fydd yn rhaid i unrhyw deulu arall wynebu dioddefaint o’i fath.”

Mae ditectifs yn parhau i apelio am wybodaeth gan unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i’r digwyddiad tua 10.30 o’r gloch yn ardal gwesty Waverley ar Ffordd yr Orsaf.

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am yr aflonyddwch, cysylltwch â gorsaf heddlu Bangor ar 101 neu Taclo’r Taclau yn dienw ar 0800 555 111, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod Y139039. Fel arall, cysylltwch â’r sgwrs we fyw ar wefan Heddlu Gogledd Cymru.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice