Damwain Rhosybol: dyn yn yr ysbyty

Mae dyn wedi’i anafu’n ddifrifol mewn damwain yn Rhosybol.

Derbyniodd yr heddlu adroddiad am wrthdrawiad yn cynnwys un cerbyd sef Citroen Saxo glas ar y B5111 am jyst cyn 12.50yp ar prynhawn dydd Mercher (18 Gorffennaf).

Ymatebodd y gwasanaethau brys ac mae’r gyrrwr wedi’i gludo i Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol. Mae’r ffordd ar gau ar hyn o bryd ac mae gwyriadau mewn lle.

Dywedodd y Rhingyll Jason Diamond o’r Uned Plismona Ffyrdd: ”Rydym yn apelio am dystion. Gofynnir i unrhyw un efallai welodd y gwrthdrawiad neu efallai welodd y Citroen Saxo glas yn cael ei gyrru cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu â swyddogion yr Uned Plismona Ffyrdd. Dyfynnwch rif cyfeirnod W099598.”

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice