10 beic modur wedi’u dwyn yng Ngogledd Gwynedd

Mae’r heddlu yng Ngogledd Gwynedd yn annog beicwyr modur i sicrhau bod eu beiciau yn ddiogel ar ôl nifer o ladrata o feiciau yn ddiweddar.

Mae 10 beic modur wedi cael eu dwyn o ardaloedd Bangor a Chaernarfon yn ystod y mis diwethaf.

Dywedodd Rhingyll Dafydd Curry: ”Rydym yn cynghori pawb sy’n berchen ar feic modur i sicrhau bod eu cerbydau wedi eu diogelu a ddim yn hawdd i’w cyrraedd nac yn weladwy, ar ôl cynnydd mewn lladrata beiciau yn ardal gogledd Gwynedd.”

Dylai unrhyw un sydd wedi gweld unrhyw beth amheus sy’n berthnasol i ladrata beiciau modur neu sydd wedi cael cynnig beic modur ar werth gysylltu â gorsaf heddlu Bangor ar 101 neu drwy’r sgwrs we fyw ar gwefan Heddlu Gogledd Cymru.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice