
Heddlu Gogledd Cymru
Mae fflat ym Mangor wedi cau am dri mis yn dilyn troseddau cyffuriau.
Rhoddwyd y gorchymyn i’r heddlu gau 11 Plas Gwenllian yn llys ynadon Caernarfon ddydd Iau. Mae’r fflat yn eiddo gan gymdeithas dai lleol Cartrefi Cymunedol Gwynedd.
Clywodd y llys fod y fflat wedi bod yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â chyffuriau am gyfnod hir.
Bydd y gorchymyn yn caniatáu i’r deilydd a enwir a swyddogion gan CCG fynd i mewn i’r fflat tan 11.59yh ar nos Iau 2 Awst.
Nôl ym mis Mawrth, caewyd fflat arall mewn cymhleth tai gwarchod ar Ffordd Craig-y-Don, yn dilyn cwynion gan drigolion am ymddygiad gwrthgymdeithasol.