Mae’r heddlu’n chwilio am ddau ddyn a gymerodd sigaréts o fan Tesco ger Traeth Coch.
Roedd y dynion mewn fan Ford Transit gwyn pan ddigwyddodd y lladrad ar Lôn yr Ysgol tua 11.50yb ar ddydd Mawrth (29 Mai).
Mae’r fan Transit wedi colli ei ddrws blaen i deithwyr ar ôl ymyriad gan dyst. Fe’i gwelwyd ddiwethaf yn mynd tuag at Borthaethwy.
Nid oes rhagor o fanylion ar gael ond os gwelwch chi’r digwyddiad neu os oes gennych unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101.