GWRANDO ETO: Gruffydd Wyn – talent, teulu ac Amlwch

Syco/Thames

I Gruffydd Wyn Roberts o Amlwch, roedd Britain’s Got Talent 2018 yn daith i’w gofio.

Mae canwr ifanc wedi gadael argraff fawr a’r ar y beirniaid a’r cyhoedd gyda’i berfformiadau pwerus fel tenor ar sioe dalent ITV.

Fe wneath cannoedd o bobl wylio yr ffeinal ar sgrîn fawr yn ei dref enedigol ar nos Sul – ond er gwaethaf gwth mawr i bleidleisio dros yr arwr lleol, roedd Lost Voice Guy yn fuddugol. Daeth Gruffydd yn bedwerydd gyda 11.2% o’r bleidlais.

Dyma’r ail gyfle i wrando ar rhaglen bore Sadwrn gan MônFM ar diwrnod cyn y ffeinal.

Mae Osian Roberts, brawd Gruffydd, yn ymuno â Tony Jones a Dave Roberts yn y stiwdio gyda Llinos Wyn Williams o grŵp cymunedol #CaruAmlwch ar y ffôn.

I gloi’r rhaglen, cyfle i glywed Gruffydd yn perfformio Nessun Dorma yn Gŵyl Gopr Amlwch 2016.


Dyma dair o berfformiadau Gruffydd o’r gyfres Britain’s Got Talent (cynhyrchiad Syco Entertainment / Thames Television ar gyfer ITV)

Nessum Dorma – rownd clyweliadau: perfformiad yr Golden Buzzer

Nelle Tue Mani – rownd gyn-derfynol (yn fyw o’r Hammersmith Apollo)

Perfect Symphony – rownd derfynol

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice