Mae dau ddyn wedi eu cael yn ddieuog o gynllwyn i gyflawni twyll mewn cwmni bws a gollodd ei drwydded.
Mae’r erlyniad wedi gollwng cyhuddiadau yn erbyn Michael Munson (52) o Lanllechid, ger Bangor, ac Aled Wyn Davies (41) o Rosgadfan – gyrwyr gyda’r cwmni Express Motors ym Mhenygroes
Roedd yr ddau ddyn wedi eu cyhuddo o gyfrif mwy o docynnau disgownt nag a werthwyd er mwyn gwneud enillion anonest. Mae’r honiadau, hefyd yn cynnwys cyfarwyddwyr y cwmni, wedi’u dyddio rhwng mis Mehefin 2012 a mis Medi 2014.
Cafodd Mr Munson a Mr Davies yn ddieuog yn Llys y Goron Caernarfon ar bore Mercher.
Bydd pum dyn arall yn mynd ar brawf ym mis Medi, ar ôl gwrthod cyhuddiadau tebyg.
Ataliwyd gwasanaethau bws Express ddiwedd y llynedd, wedi i’r Comisiynydd Traffig Cymru diddymu eu trwydded am ffugio cofnodion cynnal a chadw.