
Llun teulu: Heddlu Gogledd Cymru
Mae heddlu yn chwilio am ddynes sydd ar goll o Gaernarfon am dros 24 awr.
Gwelwyd Chantelle Williams ddiwethaf am tua 8.30am bore dydd Iau (18 Ebrill) – mae ganddi gysylltiadau ag ardaloedd Ynys Môn a Sir Ddinbych.
Roedd Miss Williams (21 oed) yn gwisgo brig gwyn a jîns glas golau pan ddiflannodd hi.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am ei lle, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 (gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 22307.