Mae pryder yn tyfu am ddiogelwch dyn sydd wedi bod ar goll am benwythnos.
Mae’r heddlu yn ceisio lleoli David Hugh Coriat (55) – fe’i gwelwyd ddiwethaf yn mynd ar fferi o Gaergybi i Ddulyn ar bore ddydd Gwener (8.55yb) a chredir ei fod dal yn Nulyn, Iwerddon.
Disgrifir Mr Coriat fel dyn gwyn, gyda gwallt wedi britho wedi moeli, llygaid glas ac yn gwisgo sbectols. Roedd wedi gwisgo’n drwsiadus y tro diwethaf iddo gael ei weld.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am Mr Coriat, ffoniwch Heddlu Gogledd Cymru ar 101.