Mae dyn wedi marw mewn damwain dau gerbyd ym Mae Trearddur.
Roedd y beicwr modur yn cymryd rhan mewn gwrthdrawiad gyda char Ford Focus ar Ffordd Trearddur tua 11.30am bore Mercher (30 Mai) – cafodd ei ddatgan marw yn yr olygfa.
Roedd gwasanaethau brys yn y fan a’r lle, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru. Roedd y ffordd ar gau am sawl awr tra dechreuodd ymchwiliad i’r ddamwain.
Dyma’r ail wrthdrawiad angheuol yn y Gogledd Orllewin yr wythnos hon. Bu farw dyn arall mewn damwain debyg ar yr A470 rhwng Dolwyddelan a Blaenau Ffestiniog ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc.
Dywedodd y Rhingyll Raymond Williams: ”Yn anffodus rydym yn ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ac mae ein meddyliau i gyd gyda theulu’r dyn ar hyn o bryd.”
Mae’r heddlu’n apelio am dystion i gysylltu ag Uned Plismona’r Ffyrdd yn Llandygai ar 101.