- Nodir y dyddiad cau ar bob raffl neu gystadleuaeth unigol.
- Dim ond un cais am bob gwobr / cystadleuaeth, fesul gwrandäwr.
- Mae pob gwobr yn amodol ar argaeledd, ac mae radio MônFM yn cadw’r hawl i newid y wobr gyda chynnyrch o werth cyfartal neu uwch os oes angen yn ôl eu disgresiwn.
- Does dim angen talu am gystadlu.
- Mae gwobrau a chystadlaethau yn agored i drigolion y DU sy’n 18 oed neu’n hŷn.
- Bydd enillydd / enillwyr yn cael eu dewis ar hap ar ôl y dyddiad cau gan yr holl geisiadau cymwys a dderbynnir. Mae penderfyniad MônFM yn derfynol a ni fydd gohebiaeth o unrhyw fath
- Hysbysir enillydd (wyr) ar yr awyr, drwy e-bost neu dros y ffôn (gan ddefnyddio’r manylion a ddarperir wrth gymeryd rhan) o fewn pythefnos i’r dyddiad cau. Yn dilyn hysbysiad o’r fath, bydd yn ofynnol i’r enillydd anfon manylion llawn eu cyfeiriad post fel y gellir cyflwyno’r wobr iddo/hi (os yw’n berthnasol) i’r trefnydd – fel arall gwneir trefniadau eraill e.e. ar gyfer tocynnau i gig ac ati
- Os nad yw MônFM yn gallu: (i) cysylltu â’r enillydd (drwy’r manylion a ddarperir ar y dyddiad mynediad) o fewn cyfnod rhesymol o amser (i’w sefydlu ar ddisgresiwn unigol y trefnydd); neu (ii) os nad yw’r enillydd yn dychwelyd manylion ei gyfeiriad post at yr Hyrwyddwr o fewn 14 diwrnod i’r hysbysiad ei fod wedi ennill y Wobr, mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ail-dynnu enillydd y a wedi hynny tan fydd enillydd wedi cael ei ddewis yn unol a’r termau.
- Caniatewch 28 diwrnod i gyflwyno unrhyw wobr. Nid yw’r Hyrwyddwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golli’r wobr, ei difrodi neu ei gohirio yn y post.
- Trwy gofrestru ar unrhyw un o gystadlaethau MônFM, rydych chi’n cytuno i gyhoeddi eich enw a’ch llun ar-lein neu eu defnyddio mewn unrhyw ddeunydd hyrwyddo yn y dyfodol ar gyfer cystadlaethau radio MônFM.
- Ni chaiff cyflogeion, gwirfoddolwyr, neu aelodau agos o deulu cyflogai neu wirfoddolwr MônFM gystadlu mewn cystadleuaeth os na nodir yn wahanol. Ni chaiff cyflogeion na’u teuluoedd agos, o unrhyw noddwr / darparwr gwobrau trydydd parti, gymeryd rhan yn y gystadleuaeth benodol honno ychwaith.
- Efallai y byddwn yn gofyn i chi am brawf o’ch cymhwysedd ar gyfer cymeryd rhan mewn cystadlaethau. Rydym yn cadw’r hawl, yn ôl ein disgresiwn ni, i benderfynu a fodlonwyd meini prawf cymhwyster ai peidio.
- Gall torri unrhyw un o’r meini prawf cymhwysedd yn y telerau ac amodau arwain at eich gwahardd rhag cystadlu a / neu dynnu gwobr yn ôl.
Diolch am gystadlu a phob lwc!