
Llun teulu: Heddlu Gogledd Cymru
Mae’r heddlu wedi adnewyddu eu hapêl yn dilyn saethu gyda bwa croes yng Nghaergybi ar Dydd Gwener y Groglith.
Mae Gerald Corrigan, 74 oed, mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke ar ôl cael ei saethu y tu allan i’w gartref ar Ffordd Ynys Lawd yn oriau mân 19 Ebrill.
Teithiodd y bollt drwy ran uwch ei gorff, gan fethu ei galon a mynd allan drwy ei fraich. Nid yw wedi adennill ymwybyddiaeth.
Mae’r eiddo mewn lleoliad hynod anghysbell gerllaw Ffordd Porth Dafarch a Ffordd y Plas.
Dywedodd Ditectif Prif Arolygydd Brian Kearney, y Swyddog Ymchwilio Uwch yn CID Llangefni: ”Mae’r adborth gan y gymuned, ymwelwyr a’r cyfryngau wedi bod yn wych. Mae Ystafell Digwyddiadau wedi’i leoli yng Ngorsaf Heddlu Llangefni efo oddeutu 30 o dditectifs a staff yr heddlu yn gweithio ar yr achos.”
”Mae gennym nifer o ymholiadau ac rydym wedi cwblhau ymholiadau o ddrws i ddrws mewn gwersylloedd a thai cyfagos ac mae gennym swyddogion yn teithio lawr i Lundain er mwyn cyfweld â thystion.”
”Mae ymchwiliad fforensig o’r safle ac ymchwiliad olion bysedd o’r tir wedi’i chwblhau. Rydym hefyd mewn cyswllt ag arbenigwyr fforensig ac mae Patholegydd y Swyddfa Gartref wedi ymweld â’r safle hefyd.”
”Mae ein cydweithwyr RNLI efo’r bad achub mewndir hefyd wedi cynorthwyo’r tîm ymchwilio.”
”Dwi’n apelio’n uniongyrchol i’r person neu bobl sy’n gyfrifol i gysylltu â ni. I’r unigolyn neu unigolion hwnnw – os mai damwain oedd hwn, gwnewch y peth iawn, cysylltwch â ni er mwyn esbonio beth ddigwyddodd. Mi wnawn ymchwilio hwn yn drylwyr.”
Yn ôl yr heddlu, gweithiodd Mr Corrigan fel darlithydd mewn ffotograffiaeth a fideo yn Sir Gaerhirfryn cyn ymddeol i Ynys Môn dros 20 mlynedd yn ôl ac roedd ganddo ddiddordeb brwd mewn natur.
Ychwanegodd Brian Kearney: ”Rydym yn parhau i weithio â busnesau a darparwyr bwa croes a dwi wedi derbyn cymorth gwych gan un o ddarparwyr mwyaf y DU.”
”Dwi hefyd yn apelio ar aelodau o’r cyhoedd os ydynt yn ymwybodol o unrhyw berson ar Ynys Môn sydd hefo bwa croes i gysylltu â ni. Rydym angen eu dileu o’r ymchwiliad ac wrth gwrs fe wnawn ymdrin ag unrhyw berchennog bwa croes mewn modd proffesiynol.”
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y saethu, cysylltwch â CID Llangefni ar 101, gan ddyfynnu cyfeirnod X052857, neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.