Prifysgol Bangor: myfyriwr wedi’i ganfod yn farw

Mae myfyriwr 26 oed wedi ei ganfod yn farw ym Mhrifysgol Bangor.

Cafodd y gwasnaethau brys eu galw i ystafell myfyrwir mewn neuadd toc wedi 10yh nos Sul (25 Hydref).

Yn ôl yr heddlu, bu farw’r dyn yn y fan a’r lle ”er gwaethaf ymdrech ffrindiau a pharafeddygon”.

Nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin yn un amheus ac mae crwner Gogledd Orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones, wedi cael gwybod.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: ”Estynnwn ein cydymdeimlad â theulu a ffrindiau’r myfyriwr a gofynnwn i chi barchu eu preifatrwydd.”

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr eraill yn y neuadd.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice