Gwrando / Listen
Gwrando ar MônFM yn fyw. Listen to MônFM live.
Mae nyrs wedi ymddangos yn y llys wedi’i gyhuddo o lofruddio wyth o fabanod mewn ysbyty yng Nghaer. Cafodd Lucy Letby, o Henffordd, ei harestio dwywaith yn ystod ymchwiliad i farwolaethau yn yr uned newyddenedigol yn Ysbyty Iarlles Caer rhwng 2015 a 2016. Yn ôl Heddlu Swydd Gaer, roedd nifer o deuluoedd o Ogledd Cymru […]
Mae cwest wedi agor i farwolaeth peiriannydd BT yn Abergwyngregyn. Bu farw Alun Owen ar ôl iddo ddisgyn i’r Afon Aber yn y pentref ym mis Hydref. Roedd yn 35 oed ac o ardal Bethesda. Roedd Mr Owen – neu ‘Al Bonc’ fel y’i gelwid yn lleol – yn gweithio ar gwiffren ffôn i gwsmer […]
Mae chwech o bobl wedi ymddangos o flaen llys wedi’u cyhuddo o herwgipio plentyn ifanc. Yn ôl erlynwyr, cafodd y plentyn ei gipio yn ardal Gaerwen dydd Mercher diwethaf (4 Tachwedd). Fe gefodd y plentyn ei ganfod yn ddianaf mewn car ar yr M1 yng ngwasanaethau Watford Gap, Swydd Northampton, yn ddiweddarach y noson honno. Mae’r tri […]
Mae cwest wedi ei agor a’i ohirio i farwolaeth dyn mewn gwrthdrawiad â lori ar yr A55. Cafodd Ciaran Murray ei daro gan y HGV wedi iddo adael ei car Vauxhall Corsa yn dilyn damwain ger Y Fali ym mis Awst. Bu farw Mr Murray yn y fan a’r lle gydag anafiadau lluosog. Mae ymchwiliad […]
Mae chwech o bobl wedi’u cyhuddo o herwgipio plentyn ar Ynys Môn. Fe fydd y grŵp yn ymddangos yn llys ynadon Llandudno ddydd Llun yn dilyn y cipio honedig ar bwynt cyllell ddydd Mercher diwethaf (4 Tachwedd). Fe gefodd y plentyn ei ganfod yn ddiogel mewn car yn Swydd Northampton yn ddiweddarach y noson honno. […]
Mae ditectifs yn apelio am dystion yn dilyn cipio plentyn ar bwynt cyllell ar Ynys Môn. Cafodd chwe o bobl eu arestio ar ôl y herwgipio ar yr Ynys brynhawn Mercher diwethaf (4 Tachwedd). Maen nhw’n parhau i fod yn y ddalfa. Mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn ardal Cae Glas yn […]
Mae chwech o bobl wedi’u harestio ar ôl i blentyn gael ei gipio ar bwynt cyllell ar Ynys Môn. Fe ddigwyddodd y herwgipio tua 4yp brynhawn Mercher (4 Tachwedd). Cafodd ditectifs eu galw i leoliad nas datgelwyd yn dilyn addroddiadau bod pobl wedi defnyddio cyllell yn ystod y digwyddiad. Fe gefodd y plentyn ei ganfod […]
Mae chwech o bobl wedi’u harestio mewn cyfres o gyrchoedd gwrth-gyffuriau yn ardal Blaenau Ffestiniog. Cafodd naw eiddo eu chwilio gan ditectifs yn y dref fel rhan o ymchwiliad ”hirhoedlog” i gweithgaredd llinellau sirol (”county lines”) rhwng Gogledd Cymru a Glannau Mersi. Atafaelwyd swm o gyffuriau Dosbarth B ac arian parod yn ystod yn ystod y […]
Mae myfyriwr 26 oed wedi ei ganfod yn farw ym Mhrifysgol Bangor. Cafodd y gwasnaethau brys eu galw i ystafell myfyrwir mewn neuadd toc wedi 10yh nos Sul (25 Hydref). Yn ôl yr heddlu, bu farw’r dyn yn y fan a’r lle ”er gwaethaf ymdrech ffrindiau a pharafeddygon”. Nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin yn un […]
Mae’r ditectifs wedi apelio yn dilyn nifer o fyrgleriaethau yng Nghaernarfon. Digwyddodd y byrgleriaethau rhwng nos Iau (15 Hydref) a dydd Gwener (16 Hydref), pan dorrodd lladron i mewn i nifer o dai yn ardal Maesincla y dref a dwyn sawl eitem. Dywedodd y Ditectif Ringyll Richard Griffith o CID Caernarfon: ”Rwy’n awyddus iawn i […]