
Mae dynes wedi’i harestio yn dilyn marwolaeth amheus mewn tafarn yn Llangefni.
Mae’r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth dyn – daethpwyd o hyd iddo wedi marw mewn toiled yn Nhafarn ‘The Market Vaults’ ar Sgwar Bulkley.
Mae’r dyn wedi cael ei enwi’n lleol fel Philip Hughes, 52 oed o Aberffraw.
Cafodd swyddogion wybod am y darganfyddiad toc wedi hanner nos ar bore Mawrth (16 Hydref) – mae’r safle yn destun archwiliad fforensig o hyd. Mae dynes 32 oed yn cael ei holi o dan amheuaeth o lofruddiaeth.
Nid yw achos y farwolaeth yn hysbys ar hyn o bryd, ond mae’n cael ei thrin yn amheus. Mae archwiliad post mortem i fod i ddigwydd.
Mae teulu’r dyn wedi’u hysbysu ac yn cael cefnogaeth gan swyddogion heddlu arbenigol.