
Heddlu Gogledd Cymru
Mae’r ditectifs yn apelio am unrhyw wybodaeth am symudiadau Land Rover cyn iddo gael ei losgi fel rhan o’r ymchwiliad i lofruddiaeth Gerald Corrigan.
Mae dau ddyn o ogledd Gwynedd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynllwyn i gyflawni llosgi bwriadol a chynorthwyo troseddwr.

Llun teulu: Heddlu Gogledd Cymru
Mae tri cyfeiriad lleol sy’n gysylltiedig â nhw wedi’u chwilio yn ardaloedd Caergeiliog a Bryngwran fel rhan o’r ymchwiliad.
Dyweddod Prif Uwcharolygydd Wayne Jones: ”Fel rhan o’r ymchwiliad i lofruddiaeth Mr Corrigan Rydym am wybod beth oedd symudiadau’r Land Rover Discovery ar 3 Mehefin. Rwyf yn apelio at unrhyw un a welodd y cerbyd hwn yn teithio o Engedi i Lanllechid i gysylltu â ni.”
”Mae’n gynnar yn yr ymchwiliad ac mae’r ddau ddyn wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu yn amodol ar ragor o ymholiadau.”
Bu farw Mr Corrigan, 74 oed, yn ysbyty Stoke fis Mai wedi iddo gael ei saethu gyda bwa croes yn ei dŷ ger Caergybi ar Ddydd Gwener y Groglith (Ebrill 19).
Ychwanegodd Prif Uwcharolygydd Jones: ”O’n hymholiadau hyd yma, mae’r holl arwyddion yn awgrymu bod Gerald Corrigan wedi’i dargedu’n fwriadol a’i saethu y tu allan i’w gartref.”
”Yr wyf yn hynod ddiolchgar i’r rheini sydd eisoes wedi cyflwyno gwybodaeth, ond yr wyf yn sicr bod yna bobl yn ein cymuned sydd â gwybodaeth allweddol sydd eto i gysylltu â ni. Apeliaf arnynt i ddod ymlaen a siarad â ni yn gwbl gyfrinachol.”