
Llun teulu: Heddlu Gogledd Cymru
Mae tri dyn yn parhau i gael eu cadw mewn cysylltiad â llofruddiaeth Gerald Corrigan.
Mae swyddogion arbenigol a thimau fforensig yn parhau i chwilio tri eiddo yn ardaloedd Caergeilog a Bryngwyran.
Bu farw Mr Corrigan, 74 oed, yn ysbyty Stoke fis Mai wedi iddo gael ei saethu gyda bwa croes yn ei dŷ ger Caergybi ar Ddydd Gwener y Groglith (Ebrill 19).
Mae dynes 50 oed hefyd yn y ddalfa o ran gwyngalchu arian a throseddau twyll cysylltiedig.
Dywedodd y Ditectif Prif Uwcharolygydd Wayne Jones: ”Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a’r wybodaeth a ddaeth o’r gymuned hyd yn hyn, ond rydym yn parhau i apelio at y rhai a all fod ag unrhyw wybodaeth, ni waeth pa mor ddibwys y maent yn meddwl y gallai fod, i gysylltu â ni.”
”Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth ddod ymlaen a siarad â ni yn gyfrinachol neu fel arall cysylltwch â Crimestoppers (Taclo’r Taclau) ar 0800 555111.”