
Llun teulu
Mae dau ddyn wedi eu cadw yn y ddalfa ar ôl cael eu cyhuddo o lofruddio David Jones yng Nghaergybi.
Mewn terynged newydd, disgrifiwyd Mr Jones gan ei deulu fel ”y dyn mwyaf caredig, cariadus a gofalgar”.
Ymddangosodd Gareth Wyn Jones (47 oed) o Gaergybi a Stuart Parkin (38 oed), hefyd o Gaergybi, yn Llys Ynadon Llandudno ar gyhuddiadau o lofruddiaeth.
Siaradodd y ddau dyn yn unig i gadarnhau ei henw, cyfeiriad a dyddiad ei geni yn ystod y gwrandawiad byr.
Fe fydd y dynion yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth.
Yn y cyfamser, mae ditectifs wedi cael mwy o amser i holi dynes leol 44 oed mewn cysylltiad â’r ymchwiliad llofruddiaeth.
Mae’r ddynes yn parhau yn nalfa’r heddlu yn dilyn llys arbennig yn Yr Wyddgrug yn ystod y penwythnos.