
Geograph (Eric Jones)
Bydd dau ddyn, gafodd ei gyhuddo o lofruddio David Jones, yn sefyll ei brawf yr haf nesaf.
Mae Gareth Wyn Jones (47) a Stuart Parkin (38) o Gaergybi wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn ymosodiad difrifol yn ardal Stryd Thomas yr wythnos diwethaf.
Bu farw Mr Jones, a elwir yn lleol fel DJ, yn yr ysbyty o anafiadau helaeth i’w ben.

Llun teulu
Yn Llys y Goron Caernarfon, cafodd Jones a Parkin eu cadw yn y ddalfa tan wrandawiad rhagarweiniol y flwyddyn newydd yn dilyn ymddangosiad trwy gyswllt fideo o garchar Berwyn yn Wrecsam.
Ni wnaeth y ddau ddiffynnydd gais am fechnïaeth – ond yn ôl bargyfreithiwr, bydd Jones a Parkin yn pledio’n ddieuog.
Mae disgwyl i’r achos llawn yng Nghaernarfon bara am dair wythnos, dechrau o 19 Gorffennaf.
Yn y cyfamser, mae dynes o Gaergybi wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth amodol gan dditectifs. Cafodd y dynes 44 oed ei arestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad llofruddiaeth ddydd Gwener diwethaf.