
Traffig Cymru
Mae dynes wedi cael ei chludo i’r ysbyty yn dilyn damwain rhwng car a lori ar Bont Britannia.
Ychydig cyn 11yb bore Iau (11 Gorffennaf), hysbyswyd yr heddlu am wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar y lon i gyfeiriad y dwyrain o’r A55 oedd yn ymwneud â Honda Civic arian a HGV.

Traffig Cymru
Roedd yr ffordd ar gau am tua 40 munud ar gyfer gwaith adfer ar ôl hanner dydd. Cafodd gyrrwr yr Honda ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gyda mân anafiadau.
Dyweddod Rhingyll Meurig Jones o’r Uned Plismona’r Ffyrdd: ”Roedd ‘na lefel uchel o draffig ar gyfer yr adeg yma o’r diwrnod, ynghyd â gwaith ffordd parhaus gerllaw, yn golygu bod oedi sylweddol wedi’i achosi yn ac hefyd o gwmpas Pont Menai, Llanfairpwll, Bangor a’r ardaloedd cyfagos.”
Roedd yr gerbytffordd tua’r dwyrain yn ail-agor tua 2yp.
Ychwanegodd Rhingyll Jones: ”Rydym yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu’r eiliadau cyn y gwrthdrawiad i ddod ymlaen. Rydym hefyd yn gofyn i unrhyw un sydd â chamera cerbyd i gysylltu â ni i’n cynorthwyo â’n hymchwiliad.”
Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am yr gwrthdrawiad, cysylltwch â’r Uned Plismona’r Ffyrdd yn Llandygai ar 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod X097143.