Mae tri dyn wedi’u arestio yn dilyn cyrch cyffuriau ym Mlaenau Ffestiniog.
Cafodd swm mawr o gyffuriau Dosbarth A ac arian parod eu hatafelu yn ystod gwarant yn y dref fore Mercher.
Yn ôl yr heddlu, cafodd dau ddyn o Lerpwl a thrydydd dyn o Wynedd eu harestio ac maent yn cael eu holi yng ngorsaf heddlu Caernarfon.
Dywedodd yr Arolygydd Rhanbarthol Matt Geddes: ”Hoffwn ddiolch a chanmol aelodau o’r gymuned leol sydd wedi rhannu’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn i ni gymryd y camau cadarnhaol hyn heddiw.”
”Heb eu cymorth, mae’n llawer anoddach i ni dargedu’r troseddwyr trefnedig hyn sy’n teithio i mewn i’n cymunedau i fanteisio ar unigolion bregus er eu budd eu hunain.”
”Byddwn yn parhau i gymryd camau o’r fath i ddiogelu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a thargedu’r rhai sydd wedi’u niweidio fwyaf gan grwpiau troseddu trefnedig sy’n ceisio gweithredu yn ein hardal.”