Mae dau ddyn wedi eu harestio yn dilyn cyrch cyffuriau yn Llangefni.
Cynhaliodd swyddogion patrôl a thasg cymdogaethau Heddlu warant mewn tŷ ym Mron y Graig ar dydd Mercher (12 Rhagyfr).
Canfuwyd cyffuriau ac arian ac arestiwyd dau ddyn ar amheuaeth o wyngalchu arian, bod â chyffuriau Dosbarth B yn eu meddiant a throseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus wrth iddynt geisio dianc o’r tŷ.
Aethpwyd â nhw i’r ddalfa yng Nghaernarfon lle cawsant eu cyfweld a bellach mae’r ddau wedi cael eu rhyddhau o dan ymchwiliad.
Meddai PC Mark Hobson o Dîm Tasg Cymdogaethau Ynys Môn: ”Cafwyd y warant hon diolch i wybodaeth oddi wrth y gymdogaeth.”
”Arweiniodd gwaith tîm y swyddogion ar Ynys Môn at atafaelu cyffuriau ac arian a chymerwyd agwedd dim goddefgarwch at anhrefn cyhoeddus y tu allan i’r tŷ.”
Hefyd yn y Gogledd Orllewin, cafodd dyn ei arestio yn dilyn cyrch arall yn Bethesda ddydd Iau.
Cafodd ei gyfweld ar amheuaeth o ddelio â chyffuriau a chynhyrchu sylweddau anghyfreithlon.