
Heddlu Gogledd Cymru
Mae’r heddlu ym Mangor yn ymchwilio i gyfres o fyrgleriaethau yn ardal Penrhosgarnedd.
Cafodd fan Vauxhall Vivaro ei ddwyn o’r tu allan i eiddo, cafodd platiau rhif eu cymryd o gerbyd arall, cymerwyd offer o ddau gerbyd arall a oedd wedi’u parcio ar yr un ffordd ac roedd rhywun wedi torri i mewn i sied yn yr un ardal hefyd.
Digwyddodd yr holl ddigwyddiadau yn ystod oriau mân fore Llun Ebrill 29.
Dywedodd PC Megan Roberts yng ngorsaf heddlu Bangor: ”Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld rhywun yn ymddwyn yn amheus yn ardal Penrhosgarnedd o Fangor yn hwyr nos Sul ac yn oriau mân ddydd Llun 29 Ebrill.”
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y byrgleriaethau, cysylltwch â PC Roberts yng ngorsaf heddlu Bangor ar 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 19100209271. Fel arall, cysylltwch â Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.