Mae Sarah Wynn Griffiths wedi cael ei enwebu am wobr ‘Seren y Sîn’ yng ngwobrau cylchgrawn Y Selar am ei gwaith ar MônFM a Radio Ysbyty Gwynedd.
O sioeau radio, i gyfweliadau, i wyliau miwsig ar-lein a sesiynau clo, roedd 2020 yn brysur ofnadwy i Sarah, sydd hefyd yn creu cerddoriaeth ei hun.
Nôd ‘Gwobrau’r Selar’ yw gwobrwyo’r bandiau ac artistiaid cerddorol cyfoes sydd wedi bod yn weithgar yn y sin Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mi wnaeth panel o gyfranwyr a chyfeillion gwybodus cylchgrawn ‘Y Selar’ lunio rhestrau hir ar gyfer y categorïau ar sail enwebiadau gan y cyhoedd. Nawr, bydd y dewis yn ôl yn nwylo’r cyhoedd unwaith eto gyda’r bleidlais i ddewis rhestrau byr ac enillwyr.
Yn hytrach na gig mawr yn Aberystwyth i ddathlu’r enillwyr fel a fu yn y gorffennol, bydd enillwyr y gwobrau’n cael eu cyhoeddi dros wythnos o weithgarwch ar BBC Radio Cymru rhwng 8 a 12 Chwefror 2021.
Dywedodd Sarah: ”Dwi’n emosiynol iawn i gael fy enwebu am y wobr mawreddog ‘Seren y Sîn’ gan ‘Y Selar’. Cerddoriaeth yw fy mywyd i a bod yn artist fy hun, rwy’n sicrhau fy mod yn rhoi’r sylw i’r artistiad y maent yn eu haeddu. Dwi wrth fy modd yn cyflwyno ar MônFM a Radio Ysbyty Gwynedd ac yn falch iawn o fod yn cyflwyno ar y ddwy orsaf. Diolch o waelod calon am yr enwebiad.”
Ychwanegodd Tony Jones, cadeirydd dros-dro MônFM: ”Rydym yn dymunno pob lwc i Sarah Wynn ar ei enwebiad yn y wobreuon ‘Y Selar’, mae Sarah pob tro yn ymroddgar ag yn barod iawn i roi llwyfan a chymhorthi bandiau ag artistiaid lleol yn ei sioe radio wythnosol ar MônFM.”