Cwest yn agor wedi gwrthdrawiad angheuol ar yr A55

Llun teulu (Heddlu Gogledd Cymru)

Mae cwest wedi ei agor a’i ohirio i farwolaeth dyn mewn gwrthdrawiad â lori ar yr A55.

Cafodd Ciaran Murray ei daro gan y HGV wedi iddo adael ei car Vauxhall Corsa yn dilyn damwain ger Y Fali ym mis Awst.

Bu farw Mr Murray yn y fan a’r lle gydag anafiadau lluosog. Mae ymchwiliad gan yr heddlu i’r gwrthdrawiad yn parhau.

Cafodd y cwest ei ohirio tan ddyddiad diweddarach, yn dilyn gwrandawiad byr dan arweiniad Kate Sutherland, crwner cynorthwyol Gogledd Orllewin Cymru.

Roedd Mr Murray yn 35 oed ac yn wreiddiol o Swydd Lincoln.

Mewn teyrnged yn dilyn ei farwolaeth, dyweddod teulu: ”Roedd Ciaran yn hael, yn hoffus, yn garedig, ac yn sensitif.”

”Roedd yn fab, brawd, ewythr, nai, cefnder a ffrind annwyl gan lawer. Bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb oedd yn ei adnabod.”

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice