Mae chwech o bobl wedi’u harestio ar ôl i blentyn gael ei gipio ar bwynt cyllell ar Ynys Môn.
Fe ddigwyddodd y herwgipio tua 4yp brynhawn Mercher (4 Tachwedd).
Cafodd ditectifs eu galw i leoliad nas datgelwyd yn dilyn addroddiadau bod pobl wedi defnyddio cyllell yn ystod y digwyddiad.
Fe gefodd y plentyn ei ganfod yn ddiogel mewn cerbyd yn Swydd Northampton yn ddiweddarach y noson honno.
Roedd y plentyn yn ddianaf ac mae chwe oedolyn yn parhau yn y ddalfa.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi disgrifio’r herwgipio fel digwyddiad ‘ynysig’ ac nid ymosodiad gan ddieithryn.
Ychwanegodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Gareth Evans: ”Mae hwn wedi bod yn ddigwyddiad brawychus i’r rhai dan sylw.”
”Rydym wedi canolbwyntio drwyddi draw ar achub y plentyn yn ddiogel ac yn iach ac rwy’n hapus i ddweud bod hyn wedi’i gyflawni…rydym yn delio â’r rhai yr ydym yn amau eu bod yn cymryd rhan.”
”Hoffwn ddiolch i’n cydweithwyr yn Sir Northampton am eu cefnogaeth gyflym.”