Mae dyn o Gaergybi sydd wedi’i gyhuddo mewn cysylltiad â herwgipio plentyn honedig wedi marw yn y carchar.
Cafwyd hyd i gorff Robert Frith yng Ngharchar Berwyn yn Wrecsam ddydd Sadwrn diwethaf (14 Tachwedd). Roedd yn 65 oed.
Nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ac mae Ombwdsmon y Carchardai wedi cael gwybod.
Roedd Frith yn y ddalfa yn dilyn cipio honedig ar bwynt cyllell yn ardal Gaerwen ar 4 Tachwedd.
Fe gefodd y plentyn ei ganfod yn ddianaf mewn car ar yr M1 yn Swydd Northampton, yn ddiweddarach y noson honno.
Mae partner Frith, Jane Going-Hill (59) o Gaergybi, hefyd wedi’i chyhuddo o herwgipio ynghyd â Dr Anke Hill (51) o Llanfaethlu, Edward Stevenson (68) a’i wraig Janet (66) o Crawley ac Wilfred Wong (55) o Camden.
Mae Wong hefyd wedi’i gyhuddo o fod â chyllell yn ei feddiant.
Bydd y tair dynes a dau ddyn yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun 7 Rhagfyr.