Mae ditectifs yn apelio am dystion yn dilyn cipio plentyn ar bwynt cyllell ar Ynys Môn.
Cafodd chwe o bobl eu arestio ar ôl y herwgipio ar yr Ynys brynhawn Mercher diwethaf (4 Tachwedd). Maen nhw’n parhau i fod yn y ddalfa.
Mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn ardal Cae Glas yn Gaerwen rhwng 3.45yp a 4yp ac hefyd ar Lôn Cyttir, ger Tesco ym Mangor, rhwng 3:50yp a 4:10yp ar yr un diwrnod.
Fe gefodd y plentyn ei ganfod yn ddiogel mewn car yn Swydd Northampton yn ddiweddarach y noson honno. Roedd y plentyn yn ddianaf.
Mae swyddogion hefyd yn apelio ar unrhyw un a welodd ddau gar fel rhan o ”ymchwiliad cyflym”.
Dwyeddod y Ditectif Arolygydd Chris Bell: ”Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd Citroen Picasso lliw arian gyda’r plât rhif ffug – YD58 UVC – yn Gaerwen neu Lôn Cyttir i gysylltu â ni.”
”Rydym hefyd yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi gweld Ford Galaxy arian gyda’r rhif cerbyd DG13 WML yn ardal Lôn Cyttir.”
“Rydyn ni’n annog unrhyw un a oedd yn y naill ardal neu’r llall tua’r un amser, ac a allai fod â lluniau cam dash neu deledu cylch cyfyng preifat, i gysylltu.”
Ychwanegodd Mr Bell: ”Hoffem ailadrodd mai digwyddiad ynysig oedd hwn ac nid ymosodiad dieithr.”
”Diolch byth, daethpwyd o hyd i’r plentyn yn ddiogel gan ein cydweithwyr yn Swydd Northampton.”
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y herwgipio, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod 20000670162.