Mae dyn yn ei 20au wedi marw ar ôl gwrthdrawiad â char yn Amlwch.
Cafodd yr heddlu eu galw i wrthdrawiad yn ymwneud â Ford Fiesta glas a cherddwr ar ffordd ddi-ddosbarth rhwng Amlwch a Rhosgoch am tua 10.15pm nos Fercher (4 Medi). Bu farw’r cerddwr yn y fan a’r lle.
Roedd y ffordd ar gau i’r ddau gyfeiriad am gyfnod, ond mae bellach wedi ailagor
Dwyeddod y Rhingyll Raymond Williams o’r Uned Plismona’r Ffyrdd: ”Mae ein meddyliau yn aros gyda theulu’r dyn ifanc oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad neithiwr.”
”Rydym yn apelio at unrhyw un oedd yn teithio yn y cyffiniau a sydd wedi gweld cerddwr i gysylltu â ni. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn clywed gan unrhyw un a fu’n gyrru yn yr ardal ychydig cyn y gwrthdrawiad ac sydd â lluniau camera cerbyd all ein cynorthwyo gyda’n hymchwiliad.”
Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am yr gwrthdrawiad, cysylltwch ag Uned Plismona Ffyrdd y Gorllewin ar 101, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod X129676, neu’r ystafell reoli trwy wefan Heddlu Gogledd Cymru.