
Heddlu Gogledd Cymru (@NWPRPU)
Mae gyrrwr lori wedi osgoi cyfnod yn y carchar am yfed a gyrru ar yr A55 ger Gaerwen.
Cafodd Tomas Ambrazas o Newry, Gogledd Iwerddon, ei arestio ar ôl iddo gael ei stopio gan yr heddlu nos Fercher (2 Rhagyfr).
Yn ôl swyddogion, roedd Ambrazas yn gyrru’n anghyson ac wedi methu prawf anadl. Rhoddodd y gŵr 51 oed ddarlleniad o 111 sydd dros deirgwaith y terfyn cyfreithiol.
Yn llys ynadon Caernarfon, fe gafodd ddedfryd o wyth wythnos yn y carchar wedi’i ohirio am flwyddyn.
Cafodd Ambrazas hefyd ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd a hanner a rhaid iddo dalu cyfanswm o £213, gan gynnwys £85 o gostau.