Gwrthdrawiad Rhos-y-bol: un yn yr ysbyty

Mae person wedi cael ei gludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Rhos-y-bol, ger Amlwch.

Roedd y B5111 ar gau i’r ddau gyfeiriad yn dilyn y ddamwain rhwng car a beic modur ger yr ysgol gynradd tua 5.55yb fore Llun (7 Rhagfyr)

Yn ôl Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, cafodd un person ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor i gael triniaeth.

Roedd Ysgol Rhosybol ar gau i ddisgyblion tan 10yb. Mae’r ffordd wedi ailagor yn dilyn gwaith adfer.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice