Tai gwyliau yng Ngwynedd: galw am gamau brys i gyfarch ‘argyfwng’

Geograph (Jaggery)

Mae penaethiaid Cyngor Gwynedd wedi galw am ‘gamau brys’ i gyfarch ”argyfwng tai gwyliau”.

Mae’n dilyn adlach gynyddol gan weithredwyr lleol mewn ymateb i gynnydd mawr ym mhrisiau tai.

Yn ôl adroddiad newydd, mae bron i 60% o bobl leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai yn y sir.

Mae Gwynedd sydd a’r ganran uchaf o dai gwyliau yng Nghymru – ac mae’r cyngor wedi rhybuddio fod y sefyllfa yn y sir yn ”argyfyngus”.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y twf mewn llwyfannau fel Airbnb a Booking.com sy’n hwyluso’r broses o farchnata unedau preswyl at ddefnydd gwyliau.

Dwyeddod Gareth Griffith, aelod cabinet am yr amgylchedd: ”Mewn rhai ardaloedd, mae’r sefyllfa yn wirioneddol ddychrynllyd gydag arolwg AirDNA yn dangos cynnydd o 915% o’r unedau oedd ar gael yn haf 2019 o’i gymharu gyda Ionawr 2017.”

”Ar y lefel lleol, mae cynghorau sir yn gweithredu polisïau a chynlluniau i hwyluso mynediad i’r farchnad i bobl leol.”

”Ond mae diffyg gwirioneddol yng ngallu cynghorau i ymyrryd ar hyn o bryd ac mae angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth Cymru-gyfan cyn iddi fynd yn rhy hwyr.”

Mae’r gwaith ymchwil sydd wedi ei gynnal dros y flwyddyn diwethaf yn datgelu fod 10.7% o stoc dai Gwynedd (tua 6,800 o eiddo) yn dai gwyliau neu’n ail gartrefi o’i gymharu â chyfartaledd Cymru o 2.56%.

Bydd y cyngor sir yn lansio cynllun gweithredu fydd yn cynyddu’r tai fydd ar gael i bobl leol, ond mae’r awdurdod lleol hefyd eisiau gweithredu gan weinidogion ym Mae Caerdydd.

Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys

  • Galw am gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer llety gwyliau tymor byr fyddai’n gyfrifoldeb i’r awdurdod lleol ei weithredu.
  • Galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar fyrder i newid y Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol fel bod unrhyw dŷ annedd sydd ddim yn brif neu unig gartref i unigolyn (boed yn ail gartref neu’n dŷ a ddefnyddir at ddibenion llety gwyliau tymor byr) yn cael ei ddiffinio fel tŷ annedd er pwrpas trethu (a thrwy hynny yn talu unrhyw bremiwm Treth Cyngor a benderfynir arno’n lleol).

Mae’r dyn sy’n gyfrifol am dai yng Ngwynedd, Craig ab Iago, wedi disgrifio’r sefyllfa yn Abersoch fel ”sefyllfa anfoesol”. Yn y pentref, mae 46% o’r tai yn llety gwyliau a phris tŷ cyfartalog yn £365,275.

Dyweddod y cynghorydd: ”Mae sicrhau cyflenwad addas o dai i bobl leol allu byw yn eu cymunedau yn flaenoriaeth glir i ni.”

”Ond mae prisiau tai uchel yn sgil y galw am unedau gwyliau ac ail gartrefi yn gwthio yr hawl sylfaenol i gartref yn eu cymunedau eu hunain y tu hwnt i afael pobl leol mewn nifer cynyddol o’n trefi a phentrefi.”

Mae’r adroddiad hefyd yn argymell mesurau tebyg i’r rhai yn yr Alban, lle mae trefn yn cael ei chyflwyno fydd yn golygu fod angen i bob uned gwyliau fod â thrwydded cyn dechrau gosod yn ogystal a’r angen am ganiatad cynllunio mewn rhai ardaloedd.

Ychwanegodd Gareth Griffith: ”Byddai trefn o’r fath yma yng Nghymru yn gam mawr ymlaen, ac rydym yn awyddus i weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno system tebyg.”

”Yma yng Ngwynedd, byddwn yn prysuro gyda’r gwaith o edrych ar ein polisïau cynllunio lleol i ystyried y camau y gallwn ni eu cymryd fel Cyngor i gael rheolaeth pellach dros y sefyllfa.”

Bydd y canfyddiadau’n cael eu trafod gan bwyllgor craffu cymunedau ddydd Mawrth nesaf (8 Rhagfyr), ac wedyn gan Cabinet y cyngor ar 15 Rhagfyr.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice