Amlygiad anweddus ‘difrifol’ ar Ynys Llanddwyn

Geograph (Ian Turner)

Mae’r heddlu’n apelio am dystion yn dilyn amlygiad anweddus ar Ynys Llanddwyn.

Cafodd swyddogion eu galw tua 2.15yp brynhawn Mawrth diwethaf (24 Tachwedd) yn dilyn adroddiad bod dyn yn dinoethi ei hun.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn yn ei 50au, gyda gwallt byr llwyd, yn gwisgo cot las, jeans glas golau ac yn cario binocwlars.

Yn ôl Heddlu’r Gogledd Cymru, maen nhw’n trin y digwyddiad fel un difrifol.

Os oes gennych chi unrhyw wybodeath, cysylltwch â’r heddlu ar 101, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod 20000714729.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice