Llofruddiaeth David Jones: dau ddyn yn y llys

Llun teulu

Mae dau ddyn wedi eu cadw yn y ddalfa ar ôl cael eu cyhuddo o lofruddio David Jones yng Nghaergybi.

Bu farw’r dyn 58 oed yn yr ysbyty o anafiadau helaeth i’w ben ar ôl ymsodiad yn ardal Stryd Thomas a Mount Pleasant ddydd Mawrth diwethaf (17 Tachwedd).

Mewn terynged newydd, disgrifiwyd Mr Jones gan ei deulu fel ”y dyn mwyaf caredig, cariadus a gofalgar”.

Ymddangosodd Gareth Wyn Jones (47 oed) o Gaergybi a Stuart Parkin (38 oed), hefyd o Gaergybi, yn Llys Ynadon Llandudno ar gyhuddiadau o lofruddiaeth.

Siaradodd y ddau dyn yn unig i gadarnhau ei henw, cyfeiriad a dyddiad ei geni yn ystod y gwrandawiad byr.

Fe fydd y dynion yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth.

Yn y cyfamser, mae ditectifs wedi cael mwy o amser i holi dynes leol 44 oed mewn cysylltiad â’r ymchwiliad llofruddiaeth.

Mae’r ddynes yn parhau yn nalfa’r heddlu yn dilyn llys arbennig yn Yr Wyddgrug yn ystod y penwythnos.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice