Caergybi: cyhuddo dau ddyn o lofruddio David Jones

Llun teulu

Mae dau ddyn wedi’u cyhuddo o lofruddio David Jones yng Nghaergybi.

Bu farw’r dyn 58 oed, a elwir hefyd yn DJ, yn yr ysbyty yn dilyn ”ymosodiad gwael” yn ardal Stryd Thomas a Mount Pleasant dydd Mawrth diwethaf (17 Tachwedd). Cafodd anafiadau sylweddol i’w ben.

Fe fydd Gareth Wyn Jones (47 oed) a Stuart Parkin (38 oed) o Gaergybi yn ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun. Bydd yr heddlu’n gofyn i’r llys gadw’r ddau ddyn yn y ddalfa.

Yn y cyfamser, mae ditectifs wedi cael mwy o amser i holi dynes leol 44 oed mewn cysylltiad â’r ymchwiliad llofruddiaeth.

Mae’r ddynes yn parhau yn nalfa’r heddlu yn dilyn llys penwythnos arbennig yn Yr Wyddgrug.

Geograph (Terry Robinson)

Mae’r heddlu’n parhau i apelio ar unrhyw un a welodd yr ymosodiad i ddod ymlaen. Maen nhw hefyd eisiau clywed gan unrhyw un a welodd ddyn ”yn ansefydlog ar ei draed” yn yr ardaloedd Heol Holborn, Ffordd Victoria a Stryd Thomas rhwng 10 ac 11yb.

Dwyeddod DCI Brian Kearney o Heddlu Gogledd Cymru: ”Mae ystafell reoli digwyddiad difrifol wedi’i sefydlu yng ngorsaf heddlu Llangefni a byddwn yn parhau i gynnal ymholiadau yn lleol. Rydym yn cydymdeimlo gyda theulu David ar yr adeg drasig yma.”

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am yr ymosodiad angheuol, cysylltwch â’r ystafell ddigwyddiad yn Llangefni ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod Y168927, neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.

Fel arall, cysylltwch â’r sgwrs we fyw ar wefan Heddlu Gogledd Cymru.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice