Porthmadog: arestio tri mewn fan gwersylla wedi’i dwyn

Heddlu Gogledd Cymru (@NWPRPU)

Mae tri o bobl wedi’u harestio ar ôl i fan gwersylla gael ei dwyn.

Yn ôl yr heddlu, fe welwyd y VW Camper gwyn yn ardal Porthmadog nos Iau (19 Tachwedd) – cafodd ei ddwyn o Wrecsam yn gynharach yn y dydd.

Heddlu Gogledd Cymru (@NWPRPU)

Defnyddiwyd y ddyfais stinger i atal y cerbyd ac arestio’r preswylwyr.

Cafodd dynes 31 oed o Wrecsam ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad diod a chyffuriau.

Mae’r tri pherson yn aros yn y ddalfa.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice