Llangefni: dynes wedi marw ar ôl digwyddiad A55

Mae dynes 48 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad ar yr A55 ger Llangefni dros y penwythnos.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i bont ar gyffordd 6 tua 9.25yb bore Sul diwethaf (15 Tachwedd)

Bu’r ffordd ar gau i’r ddau gyfeiriad am oddeutu pedair awr.

Cafodd y farwolaeth ei chadarnhau gan yr heddlu ddydd Mercher. Mae’r cwrner Gogledd Orllewin Cymru, Dewi Prtichard Jones, wedi cael gwybod.

Nid oes unrhyw fanylion pellach.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice