Herwgipio plentyn yn Gaerwen: chwech yn y llys

Mae chwech o bobl wedi ymddangos o flaen llys wedi’u cyhuddo o herwgipio plentyn ifanc.

Yn ôl erlynwyr, cafodd y plentyn ei gipio yn ardal Gaerwen dydd Mercher diwethaf (4 Tachwedd).

Fe gefodd y plentyn ei ganfod yn ddianaf mewn car ar yr M1 yng ngwasanaethau Watford Gap, Swydd Northampton, yn ddiweddarach y noson honno.

Mae’r tri dyn a’r tair dynes yn wynebu cyhuddiadau herwgipio:

    • Dr Anke Hill (51), o Llanfaethlu, ger Caergybi
    • Jane Going-Hill (59) a’i phartner Robert Frith (65), o Gaergybi
    • Edward Stevenson (68) a’i wraig Janet (66) o Crawley, Gorllewin Sussex
    • Wilfred Wong (55) o Camden, Gogledd Llundain

Yn llys ynadon Llandudno, nodwyd y bydd Ms Going-Hill a Dr Hill yn pledio’n euog.

Mae Wong hefyd wedi cael ei gyhuddo o fod â chyllell yn ei feddiant.

Cafodd y chwech eu cadw yn y ddalfa tan eu hymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ar ddydd Llun 7 Rhagfyr.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice