Mae chwech o bobl wedi’u cyhuddo o herwgipio plentyn ar Ynys Môn.
Fe fydd y grŵp yn ymddangos yn llys ynadon Llandudno ddydd Llun yn dilyn y cipio honedig ar bwynt cyllell ddydd Mercher diwethaf (4 Tachwedd).
Fe gefodd y plentyn ei ganfod yn ddiogel mewn car yn Swydd Northampton yn ddiweddarach y noson honno. Roedd y plentyn yn ddianaf.
Mae un o’r oedolion hefyd wedi’i gyhuddo o fod ag arf miniog yn ei feddiant.
Yn gynharach, fe wnaeth ditectifs apelio am dystion fel rhan o ”ymchwiliad cyflym”.
Mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn ardal Cae Glas yn Gaerwen rhwng 3.45yp a 4yp ac hefyd ar Lôn Cyttir, ger Tesco ym Mangor, rhwng 3:50yp a 4:10yp ar yr un diwrnod.
Mae swyddogion hefyd yn apelio ar unrhyw un a welodd ddau gar yn yr ardaloedd.
Dyweddod y Ditectif Arolygydd Chris Bell: ”Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd Citroen Picasso lliw arian gyda’r plât rhif ffug – YD58 UVC – yn Gaerwen neu Lôn Cyttir i gysylltu â ni.”
”Rydym hefyd yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi gweld Ford Galaxy arian gyda’r rhif cerbyd DG13 WML yn ardal Lôn Cyttir.”
“Rydyn ni’n annog unrhyw un a oedd yn y naill ardal neu’r llall tua’r un amser, ac a allai fod â lluniau cam dash neu deledu cylch cyfyng preifat, i gysylltu.”
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi pwysleisio ei fod yn ”ddigwyddiad ynysig” ac nid ”ymosodiad dieithr”.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y herwgipio, ffoniwch 101, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod 20000670162.