Nifer o fyrgleriaethau yng Nghaernarfon

Mae’r ditectifs wedi apelio yn dilyn nifer o fyrgleriaethau yng Nghaernarfon.

Digwyddodd y byrgleriaethau rhwng nos Iau (15 Hydref) a dydd Gwener (16 Hydref), pan dorrodd lladron i mewn i nifer o dai yn ardal Maesincla y dref a dwyn sawl eitem.

Dywedodd y Ditectif Ringyll Richard Griffith o CID Caernarfon: ”Rwy’n awyddus iawn i glywed gan unrhyw un sy’n gwybod pwy oedd yn gyfrifol am y byrgleriaethau hyn neu a oedd yn yr ardal ac a allai fod wedi gweld gweithgarwch amheus.”

”Byddwn hefyd yn gofyn i bobl edrych ar eu  camerâu cylch cyfyng preifat neu gamerâu cerbyd.”

”Mae hefyd yn werth atgoffa pob perchennog tŷ i fod yn wyliadwrus bob amser a sicrhau bod eich eiddo bob amser yn cael ei gloi a’i ddiogelu ac os gwelwch unrhyw ymddygiad amheus rhowch wybod i ni ar unwaith.”

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y byrgleriaethau, cysylltwch â CID Caernarfon ar 101, gan dyfynnu’r rhif cyfeirnod 20000626110, neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.

Fel arall, cysylltwch â ditectifs trwy sgwrs we fyw ar Heddlu Gogledd Cymru.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice