Dod o hyd i gorff dyn ger Ynys y Fydlyn

Mae corff dyn wedi cael ei darganfod ar arfordir Ynys Môn yn dilyn chwilio am weithiwr fferi ar goll.

Cafodd y corff ei ddarganfod gan aelod o’r cyhoedd ger Ynys y Fydlyn tua 11yb bore Mecher (7 Hydref).

Yn ôl yr heddlu, nid ydym wedi llwyddo i adnabod y corff yn swyddogol eto ond mae teulu’r dyn oedd ar goll wedi hysbysu.

Cafodd y corff ei adfer o’r lan gan griwiau Gwylwyr y Glannau a RNLI cyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Dechreuodd ymgyrch chwilio ym Môr Iwerddon nos Lun ar ôl i’r larwm gael ei godi ar gyfer dyn 44 oed o Wlad Pwyl. Fe ddiflannodd yn ystod croesfan Irish Ferries o Ddulyn i Gaergybi.

Ond cafodd y chwilio ei ohirio heb weld y dyn brynhawn Mawrth, er gwaethaf ymdrechion Gwylwyr y Glannau a chriwiau bad achub o Gaergybi, Moelfre a Porthdinllaen.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice