Dyn yn gwadu ymosod ar swyddogion heddlu

Mae dyn 33 oed o Fangor wedi gwadu ymosod ar ddau swyddog heddlu.

Mae Martin Jones wedi’i gyhuddo o ymosod ar dri o bobl, gan gynnwys aelod o’r cyhoedd, yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd un o swyddogion ei gludo i’r ysbyty yn dilyn arestiad Jones yn Tan-y-Bryn, Maesgeirchen brynhawn Llun (5 Hydref).

Yn llys ynadon Llandudno, plediodd Jones hefyd yn ddieuog i achosi difrod troseddol i ddrws, gwerth dros £685.

Rhoddwyd mechnïaeth i Jones, o Faesgeirchen, a bydd yn ymddangos cyn barnwr yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun 9 Tachwedd.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice