Abergwyngregyn: enwi dyn wedi marwolaeth mewn afon

Mae’r heddlu wedi enwi peiriannydd a fu farw ar ôl iddo syrthio i’r afon yn Abergwyngregyn.

Daethpwyd o hyd i gorff Alun Owen o Afon Aber yn dilyn ymgyrch chwilio yn y pentref nos Fawrth (6 Hydref). Roedd Mr Owen yn 32 oed ac yn gweithio i gwmni BT Openreach.

Cafodd gwasanethau brys eu galw toc cyn 4yp yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi ei gipio gan gerrynt yr afon.

Mae ymchwiliad rhwng yr heddlu a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cychwyn er mwyn ceisio sefydlu’r amgylchiadau marwolaeth Mr Owen, a oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel Al Bonc.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andrew Gibson o Heddlu Gogledd Cymru: ”Rydym yn cydymdeimlo’n ddwys gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr y peiriannwr ar yr amser hynod anodd yma, ac hoffwn ofyn fod eu preifatrwydd yn cael ei barchu gan y cyfryngau yr adeg hwn.”

Mae crwner Gogledd Orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones, hefyd wedi ei hysbysu am y farwolaeth a bydd cwest yn cael ei agor maes o law.

Roedd y ymgrych chwilio yn cynnwys Gwylwyr y Glannau, tîm achub mynydd Dyffryn Ogwen, tri chriw tân a thimau achub dŵr arbenigol.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice