Bangor: cyhuddo dyn o ymosod ar swyddog heddlu

Mae dyn 33 oed wedi’i gyhuddo o ymosod ar swyddog heddlu ym Mangor.

Cafodd y swyddog ei gludo i’r ysbyty yn dilyn aflonyddwch yn Tan-y-Bryn ar ystad Maesgeirchen brynhawn Llun (5 Hydref) ond cawsant eu rhyddhau yn ddiweddarach.

Mae Martin Jones o Llys Dylan, Maesgeirchen, wedi’i gyhuddo i ddau gyhuddiad o ymosod ar weithiwr y gwasanaethau brys.

Mae hefyd yn wynebu cyhuddiadau pellach o ymosodiad cyffredin, difrod troseddol ac ymddygiad anhrefnus.

Fe fydd Jones yn ymddangos yn llys ynadon Llandudno fore Mercher. Mae’n parhau i fod yn y ddalfa.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice