Abergwyngregyn: dyn wedi marw ar ôl disgyn i afon

Mae dyn wedi marw ar ôl iddo ddisgyn i’r afon yn Abergwyngregyn.

Cafodd y gwasanethau brys eu galw i Afon Aber yn y pentref ychydig cyn 4yp brynhawn Mawrth (6 Hydref).

Dywedodd yr heddlu fod corff y dyn wedi ei dynnu o’r dŵr tua 7.15yh yn dilyn ymgyrch chwilio fawr yn cynnwys Gwylwyr y Glannau, tîm achub mynydd Dyffryn Ogwen, tri chriw tân a thimau achub dŵr arbenigol.

Mae perthynas agosaf y dyn wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddog cyswllt arbenigol.

Y penwythnos diwethaf, cafodd nifer o gartrefi yn Abergwyngregyn eu taro gan lifogydd am yr eildro ers mis Awst.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Alun Oldfield o Heddlu Gogledd Cymru: ”Rydym yn cydymdeimlo o’r galon â theulu a ffrindiau’r dyn ar yr adeg hynod anodd hon.”

”Mae ymchwiliad ar y gweill bellach i sefydlu’r hyn a ddigwyddodd, ac felly ni allwn wneud unrhyw sylwadau pellach.”

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice