Maesgeirchen: swyddog heddlu wedi anafu mewn aflonyddwch

Mae swyddog heddlu wedi cael ei anafu yn dilyn aflonyddwch ar ystâd Maesgeirchen ym Mangor.

Cafodd swyddogion eu galw i digwyddiad o orchymym cyheoddus yn Tan-y-Bry tua 4.30yp brynhawn Llun (5 Hydref).

Yn ôl llefarydd Heddlu Gogledd Cymru, cafodd swyddog ei anafu yn ystod arestio dyn. Roedd presenoldeb mawr yr heddlu arfog yn amlwg yn yr ardal am oddeutu dwy awr.

Cafodd yr swyddog ei gludo i Ysbyty Gwynedd yn y ddinas gydag anafiadau nad yw’n peryglu bywyd.

Mae ditectifs wedi apelio am unrhyw dystion i’r digwyddiad ac yn erfyn ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â gorsaf heddlu Bangor ar 101, gan dyfynnu’r rhif cyfeirnod Y147130.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice