Y Bermo: merch yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad

Mae merch 5 oed yn yr ysbyty ar ôl iddi gael ei tharo gan gar yn Y Bermo.

Cafodd yr gwasnaethau brys eu galw i stad Pentre Bryn yn dilyn gwrthdrawiad tua 5.45yh prynhawn Iau (13 Awst).

Aed â’r ferch mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl i gael triniaeth. Nid oes unrhyw fanylion pellach ar gael.

Mae’r heddlu’n apelio am i unrhyw dystion i ddod ymlaen. Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, cysylltwch â’r Uned Plismona Ffyrdd ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 20000485267.

Fel arall, ewch i sgwrs we fyw ar wefan Heddlu Gogledd Cymru.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice